Google Services

Google Translate

Google Search

Croeso i /Welcome to

Ffederasiwn Y Ddraig

Creu dyfodol disglair

Ein Cwricwlwm / Our Curriculum

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern

Cyflwyniad i'n gweledigaeth ar gyfer Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern Dathliad o'r cydweithio yn y clwstwr wrth i ni fapio continwwm clwstwr ar gyfer disgyblion dwyrain Caerdydd a'r wybodaeth, sgiliau a'r profiadau sy'n deillio o hynny Ysgolion: Berllan Deg Bro Eirwg Glan Morfa Pen-y-Groes Pen y Pîl #ClwstwrBroEdern #joio Music credit: Stockaudios

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern

Cyflwyniad i'n gweledigaeth ar gyfer Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern Dathliad o'r cydweithio yn y clwstwr wrth i ni fapio continwwm clwstwr ar gyfer disgyblion dwyrain Caerdydd a'r wybodaeth, sgiliau a'r profiadau sy'n deillio o hynny Ysgolion: Berllan Deg Bro Eirwg Glan Morfa Pen-y-Groes Pen y Pîl #ClwstwrBroEdern #joio Music credit: Stockaudios

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern

The Bro Edern Cluster Curriculum

An introduction to our vision for the Edern Vale Cluster Curriculum A celebration of the cluster collaboration as we map out a cluster continuum for east Cardiff pupils and the resulting knowledge, skills and experiences.

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern - Cluster Curriculum

Cyflwyniad i'n gweledigaeth ar gyfer Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern Dathliad o'r cydweithio yn y clwstwr wrth i ni fapio continwwm clwstwr ar gyfer disgyblion dwyrain Caerdydd a'r wybodaeth, sgiliau a'r profiadau sy'n deillio o hynny.

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern - Cluster Curriculum

Cyflwyniad i'n gweledigaeth ar gyfer Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern Dathliad o'r cydweithio yn y clwstwr wrth i ni fapio continwwm clwstwr ar gyfer disgyblion dwyrain Caerdydd a'r wybodaeth, sgiliau a'r profiadau sy'n deillio o hynny.

Gweledigaeth y Clwstwr

 

Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru. 

Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.

Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.

Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig. 

Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.

Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol. 

Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion. 

Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol. 

Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.

Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.

 

Our Cluster Vision

 

The Bro Edern Cluster Curriculum aims to meet the needs of our pupils, who come from varied backgrounds in a mixed catchment area in eastern Cardiff, the capital of Wales.

The Four Purposes are at the heart of the Bro Edern Cluster Curriculum. Despite the fact that they are long-term aspirations, they need daily attention if they are to be realised.

Guiding pupils who are proud of their civic heritage in our capital city means that Welshness, the Welsh language and its historical development are all core to our vision.

Purposefully interweaving the areas of our curriculum ensures that the pupils of the Bro Edern Cluster benefit from the breadth of the curriculum, while concentrating on What Matters.

The diverse range of people studied in the Bro Edern Cluster Curriculum include role models to inspire the whole cross-section of cluster pupils.

Growing up in a multicultural city, where living and getting along with others is a key part of daily life, requires the encouragement of tolerance and respect in our pupils.

Fostering aspiration in our pupils means developing firm skills and strategies, enabling them to face success and failure. Perseverance and resilience are a key part of the growth mindset we nurture in our pupils.

Secure knowledge is the foundation on which cluster pupils gain experiences and build transferrable skills, to be applied today and in the future.

Our cluster’s schools have the ability to transform the lives of our pupils. With us our pupils gain the knowledge, skills and experiences which will enrich the rest of their lives.

The roots and wings in the Cluster logo encapsulate this.

Crynodeb o'n Cwricwlwm

Meithrin

Mae gwaith y Meithrin yn y Clwstwr yn canolbwyntio ar dechnegau caffael iaith wrth i nifer o'n disgyblion ddarganfod y Gymraeg am y tro cyntaf. Dysgant amdanynt eu hunain, eu corff a'u hemosiynau, lliwiau, gwahanol fwydydd ac anifeiliaid.

Derbyn

Mae gwaith y Derbyn yn y Clwstwr yn seiliedig ar fyd y plentyn. Bydd y disgyblion yn ymgyfarwyddo gyda'r ysgol ac yn dysgu am eu cartrefi a'u teuluoedd. Datblygant ddealltwriaeth o'u corff a sut maen nhw'n tyfu ac adegau pwysig yn eu bywyd. Fe'u hanogir i ddarganfod y byd o'u cwmpas ac i ddefnyddio'u dychymyg.

Blwyddyn 1

Mae gwaith blwyddyn 1 yn seiliedig ar daith y plant o amgylch eu hardal leol. Mae'n gosod sylfeini cadarn o ran eu dealltwriaeth o'u milltir sgwâr yn nwyrain Caerdydd. Wedi hynny, byddwn yn edrych ar wahanol ffyrdd o gadw'n iach ac yna'n darganfod byd glan y môr.

Blwyddyn 2

Mae gwaith blwyddyn 2 yn y Clwstwr yn seiliedig ar daith sy'n dechrau gyda'u bywydau eu hunain fel plentyn ym mhrifddinas Caerdydd. Mae'n esblygu i edrych a chymharu bywydau plant ar draws cyfnodau, edrych ar fywydau plant mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru, yna ymlaen i gymharu bywydau plant ar draws y byd, gan orffen yn dathlu doniau a thalentau plant, a'u medr i newid y byd er gwell.

Blwyddyn 3

Mae gwaith blwyddyn 3 yn y Clwstwr yn seiliedig ar hanes y Celtiaid a'r Rhufeiniaid. Byddwn yn dysgu am ein gwaddol sydd wedi deillio o'r oesau hyn. Pwy yw ein cefndryd Celtaidd heddiw? Sut lwyddon ni i oroesi ymosodiadau'r Rhiufeiniaid? Sut mae hyn wedi cyfoethogi ein bywydau?

Blwyddyn 4

Mae gwaith blwyddyn 4 yn y Clwstwr yn seiliedig ar gestyll Cymru: ddoe a heddiw. Pam gawson nhw eu hadeiladu? A beth yw eu pwrpas heddiw? Pwy oedd yn byw yn y cestyll a pham oes cymaint o gestyll yng Nghymru? Yn yr ail dymor byddwn yn ystyried pwy wnaeth adeiladu'r cestyll ac edrych yr un pryd ar bobl enwog sydd wedi adeiladu rhai o adeiladau enwocaf Cymru. Ar ôl dysgu am wahanol fwydydd, mae'r wledd yn galw a bydd disgyblion yn cynllunio gweldd gynhwysol yn y castell gan ystyried anghenion llawer o wahanol bobl.

Blwyddyn 5

Mae gwaith blwyddyn 5 yn y Clwstwr yn seiliedig ar y Chwyldro Diwydiannol, a sut mae hyn wedi effeithio ar dirwedd, iaith, gwaith a'r gymdeithas ehangach. Gyda streic y Glowyr fel sbardun, byddwn yn edrych ar bobl sydd wedi codi'u llais yn erbyn anghyfiawnder. Erbyn diwedd y flwyddyn byddwn wedi edrych ar ddatblygiad addysg dros y cyfnod hwn gan arwain at dwf Addys Gymraeg yn y brifddinas.

Blwyddyn 6

Mae gwaith blwyddyn 6 yn y Clwstwr yn seiliedig ar y thema Bae Caerdydd ac yn cwmpasu gwahanol agweddau ar fywyd yn y Bae, a sut mae hwn wedi effeithio ar Gaerdydd, Cymru a'r byd.

Summary of our Curriculum

Nursery

The work of the Nursery in the Cluster focuses on language acquisition techniques as many of our pupils discover the Welsh language for the first time. They learn about themselves, their body and emotions, colours, different foods and animals.

Reception

The work of the Reception in the Cluster is based on the child's world. The pupils will familiarise themselves with the school and learn about their homes and families. They develp an understanding of their body and how they frow and important moments in their life. They are encouraged to discover their world around them and to use their imagination.

Year 1

Year 1 work is based on the children's journey around their local area. It lays solid foundations in terms of their understanding of their locality in the east of Cardiff. They will look at different ways to stay healthy and then discover the seaside.

Year 2

Year 2's work in the Cluster is based on a journey that begins with their own lives as a child in the capital city of Cardiff. It evolves to look at and compare the lives of children across periods in history, look at the lives of children in different areas in Wales, then on to compare the lives of children across the world, ending up celebrating children's talents, and their ability to change the world for the better.

Year 3

Year 3 work in the Cluster is based on the history of the Celts and the Romans. We will learn about our legacy that has resulted from these ages. Who are our Celtic cousins today? How didi we manage to survive the Roman attacks? How has this enriched our lives?

Year 4

Year 4's work in the Cluster is based on the castles of Wales: past and present. Why were they built? And what is their purpose today? Who lived in the castles and why are there so many castles in Wales? In the second term we will consider who built the castles and at the same time look at famous people who have built some of the most famous buildings in Wales. After learning about different foods, the pupils will plan an inclusive feast in the castle taking into account the needs of many different people.

Year 5

Year 5's work in the Cluster is based on the Industrial Revolution, and how this has affected the landscape, language, work and the wider society. With the Miners' Strike as a trigger, we will look at people who have raised their voice against injustice. By the end of the year we will have looked at the development of education over this period leading to the growth of Welsh Medium Education in the capital city.

Year 6

Year 6's work in the Cluster is based on the Cardiff Bay theme and covers different aspects of life in the Bay, and how this has affected Cardiff, Wales and the world.

 

 

Cysylltwch â Ni /Contact Us

Ysgol Pen Y Pîl Heol Glan y Môr, Trowbridge, Caerdydd, CF3 1RQ
Ysgol Bro Eirwg Heol Ridgeway, Llanrhymni, Caerdydd, CF3 4AB
Top